Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio apêl arall am wybodaeth ar ôl i ddyn oedrannus farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Wrecsam bron i ddau fis yn ôl.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar yn fuan ar ôl 1yp ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 27, ar ffordd yr A525 yn Horseman’s Green.

Cafodd dau o yrwyr y ceir eu cludo i’r ysbyty, ond bu farw gyrrwr y Ford Fiesta – dyn, 72 – yn yr ysbyty ddechrau’r wythnos (dydd Llun, Medi 16).

“Bu farw’r dyn yn yr ysbyty yn Stoke ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad at ei deulu a’i gyfeillion yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Rydym yn adnewyddu ein hapêl am dystion ac rydym yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd ac unrhyw un sydd â thystiolaeth ar gamera cerbyd.”

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd a gwybodaeth i gysylltu â nhw ar unwaith.