Mae carfan Cymru “mewn sioc” ar ôl i Rob Howley gael ei anfon adref o Japan yn sgil honiadau am fetio.

Yn ôl prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, mae’r dirprwy hyfforddwr wedi ei “ddryllio” gan yr honiadau.

Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips, hefyd wedi datgelu iddo gael ei wneud yn ymwybodol o’r mater ar ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf, sef diwrnod ymadawiad carfan Cymru i Japan.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, mae Rob Howley, 48, bellach wedi dychwelyd i Gymru a bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau ei fod wedi torri rheolau Rygbi’r Byd ynglŷn â betio a llygredd.

Bydd cyn-faswr Cymru, Stephen Jones – a fydd yn olynu Rob Howley fel aelod o’r tîm hyfforddi yn 2020 – ar ei ffordd i Japan er mwyn ymuno â’r garfan ar drothwy cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Mae disgwyl i dîm Cymru chwarae eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth ar Fedi 23, pan fyddan nhw’n herio Georgia.

Ergyd i garfan Cymru

“Rydym mewn sioc,” meddai Warren Gatland o Kitakyushu.

“Honiadau yw’r rhain ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae Rob wedi ei ddryllio gan yr honiadau. Dyna’r oll y galla i ei ddweud.

“Mae’r Undeb yn delio â’r mater, ac mae’n rhaid i mi ganolbwyntio yn ystod y pum diwrnod nesaf ar baratoi’r garfan ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn Georgia.”

Ymateb Undeb Rygbi Cymru

Os yw’r honiadau’n wir, fe all Rob Howley gael ei wahardd o rygbi am oes, gan fod betio ar gemau rygbi yn anghyfreithlon i chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion y gêm.

Mae wedi cael ei wahardd dros dro ar hyn o bryd wrth i ymchwiliad gael ei gynnal gan Undeb Rygbi Cymru.

“Cawson ni wybod yn anffurfiol ar ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf yn awgrymu y gallai rheol chwech fod wedi cael ei thorri.

“Cawson ni wybod yn ffurfiol gyda gwybodaeth bellach ar nos Wener. Fe dreulion ni’r dydd Sadwrn yn prosesu’r wybodaeth.

Ychwanega: “Mae’r rhain yn honiadau difrifol. Mae yna dipyn i’w hystyried, pobol i’w holi, a data i’w brosesu.