Janet Finch-Saunders yw’r diweddaraf i gyhoeddi ei bod yn dymuno sefyll yn ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Aberconwy.

Ar hyn o b ryd, hi yw Aelod Cynulliad y Torïaid yn Aberconwy, a hynny ers cael ei hethol yn etholiad 2011.

Yn Llandudno y cafodd ei geni a’i magu, ac mae wedi bod yn aelod o’r Cyngor Tref yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Yn 2003, fe gafodd ei dewis i sefyll dros y Ceidwadwyr yn etholaeth Wrecsam, ond fe ddaeth yn drydydd ar restr ranbarthol Gogledd Cymru.

Yn 2011, fe gafodd ei hapwyntio yn ymgynghorydd polisi gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y pryd, Nick Bourne.

“Wedi cryn dipyn o ystyriaeth a thipyn go lew o anogaeth gan aelodau’r blaid, etholwyr a busnesau lleol,” meddai mewn neges ar Twitter, “dw i’n falch iawn o ddwed y byddaf yn rhoi fy enw ymlaen i gael fy newis yn ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Aberconwy.”