Mae Darren Millar wedi cyflwyno’i enw i gynrychioli’r Ceidwadwyr yng Ngorllewin Clwyd yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Daw ei gyhoeddiad yn dilyn penderfyniad David Jones, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i beidio â sefyll eto.

Mewn datganiad, mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn dweud ei fod e wedi derbyn “llu o negeseuon” yn gofyn iddo gyflwyno’i enw.

Mae’n dweud ei fod e wedi dod i’r casgliad mai fe fyddai’r “ymgeisydd gorau i drechu’r Blaid Lafur yng Ngorllewin Clwyd”.

Mae’n dweud bod David Jones wedi bod yn “aelod seneddol lleol ymroddedig ac effeithiol sydd wedi gweithio’n galed” ac y bydd ei “esgidiau’n rhai anodd i’w llenwi”.