Mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgelu manylion y cynllun gwerth £194m a fydd yn gweld holl orsafoedd trenau Cymru yn cael eu hadnewyddu.

Bwriad y rhaglen 15 mlynedd fydd darparu WiFi am ddim, llochesi gwell, camerâu cylch cyfyng, a gwella’r ddarpariaeth storio beics a gwybodaeth i deithwyr ym mhob un o’r 247 gorsaf.

Bydd cyfleusterau masnachu newydd hefyd yn cael eu creu mewn ambell orsaf, ac mae disgwyl adfywiad mawr yn yr orsaf yn Abertawe.

Yn ôl prif swyddog Trafnidiaeth Cymru, y nod yw gwneud y gorsafoedd yn “fwy diogel” ac yn lleoliadau sy’n “cynnig cyfleon masnachol a chymunedol”.

“Rydym eisiau gwella profiad cyffredinol y cwsmer, yn ogystal â chydweithio er mwyn datblygu partneriaethau gyda busnesau lleol a chymunedau,” meddai.