“Rhyfedd” oedd gweld gwaith adnewyddu Pantycelyn ar ei hanner, yn ôl un o’r rheiny a gafodd eu gwahodd i ymweld â’r neuadd breswyl.

Mae’r adeilad eiconig ar gampws Prifysgol Aberystwyth wrthi’n cael ei drawsnewid gan adeiladwyr, a chafodd sawl un eu gwahodd yno gan ddatblygwyr i weld y gwaith.

Bu Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, ac Aelod Cynulliad y sir, Elin Jones, yn ymweld â’r safle ar ddydd Gwener (Medi 13), ac un arall a gafodd gyfle i fod ar y safle oedd Elfed Wyn Jones.

Mae’r ymgyrchydd iaith yn Swyddog lleol i Gymdeithas yr Iaith, yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn falch o fod wedi cael cyfle i weld y neuadd.

“Yn ei chanol hi – dyna sut fyddwn i’n disgrifio’r gwaith!

“Roedd [y datblygwyr] wedi gwneud lot o waith clirio, a chwarae teg roedden nhw’n hyderus iawn eu bod nhw’n mynd i fod yn barod ar y dyddiad agor neu hyd yn oed cyn y dyddiad.

“Roedden nhw’n hyderus eu bod eisiau gweld y lle’n datblygu’n well…

“Roedd hi’n rhyfedd i raddau gweld yr holl ddatblygiadau a oedd wedi bod. Er fy mod i heb fyw yna, roedd rhan ohona’ i yn gyffrous i weld beth oedd am ddigwydd.”

Neuadd ar ei newydd wedd

Y bwriad yw ail-agor y neuadd breswyl Gymraeg ym mis Medi 2020 ond yn y cyfamser, bydd cwmni adeiladu Morgan Sindall yn trawsnewid y lle yn “llety cyfoes en-suite o’r radd flaenaf” ar gyfer 200 o fyfyrwyr.

Bydd yr adeilad hefyd yn darparu swyddfeydd i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, ffreutur a gofod cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr, staff a’r gymuned leol.

Bydd y gwaith adnewyddu, a fydd yn cychwyn ar Fehefin 3, yn costio £16.5m. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £5m tuag at y gost.

Ac mae’r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma wrth fodd yr Aelod Cynulliad lleol…