Mae ymgeisydd am gadeiryddiaeth Plaid Cymru yn dweud y dylid newid y drefn bleidleisio ar gyfer ethol swyddogion.

Yn ôl y drefn bresennol, dim ond aelodau sy’n bresennol yng nghynhadledd flynyddol y Blaid sy’n cael bwrw pleidlais wrth ddewis swyddogion fel y Cadeirydd.

Ond yn ôl Dr Dewi Evans, mae’r drefn honno’n “annheg” i’r aelodau hynny sy’n methu â bod yno oherwydd ymrwymiadau eraill.

Yn ei lle, mae’n cynnig system o bleidleisio ar-lein a fydd, yn ei thro, yn “tynnu aelodau i mewn” i weithgarwch canolog y Blaid.

Ac wrth ystyried bod gan Blaid Cymru gofnodion o’i holl aelodau ar gadw, fe ddylai creu system o’r fath fod yn “hawdd iawn”, meddai.

“Dw i’n aelod o’r Colegau Meddygol Brenhinol… a dyna beth maen nhw’n ei wneud ,” meddai Dr Dewi Evans wrth golwg360.

“Ac mae e’n gweithio. Mae mor syml â hynny.”

Alun Ffred – “hapus iawn i ystyried y mater”

Yn ôl Cadeirydd presennol Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, sy’n gobeithio cadw ei swydd, does ganddo ddim barn y naill ffordd neu’r llall ar y syniad.

Ond ychwanega y bydd yn “hapus iawn i ystyried y mater” pe bai’n cael ei gyflwyno gerbron Pwyllgor Gwaith y Blaid.

“Does genna i ddim barn ar y mater,” meddai Alun Ffred Jones wrth golwg360. “Mae yna ddadleuon o blaid ac yn erbyn pleidleisio ar-lein neu drwy’r post.

“Y gost ydy’r broblem efo post yn un peth, a hefyd, wrth gwrs, mae’r hen syniad eich bod chi’n troi i fyny i wrando ar drafodaeth ac wedyn yn pleidleisio.

“Ond.. dydy o ddim yn digwydd y tro yma, felly dydw i ddim yn deall beth ydy perthnasedd y drafodaeth.”

Bydd Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yn cael ei chynnal yn Abertawe rhwng Hydref 4 a 6, ac mae cryn drafod wedi bod – Cynog Dafis ac ymgyrch “annerbyniol” cefnogwyr Neil McEvoy