Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi croesawu “ffigurau anhygoel” arolwg barn ar yr awydd am annibyniaeth i Gymru.

Dengys yr arolwg YouGov/Plaid Cymru y byddai bron i chwarter poblogaeth Cymru yn pleidleisio tros annibyniaeth pe bai refferendwm yfory.

Ac mae 41% yn dweud y bydden nhw yn cefnogi Cymru Annibynnol er mwyn gallu dadwneud Brexit a chael aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Daw’r arolwg yn sgîl tair gorymdaith o blaid annibyniaeth eleni wnaeth ddenu miloedd, ac i Adam Price mae’r pôl piniwn yn dystiolaeth bod “annibyniaeth yn symud o’r ymylon i’r brif ffrwd”.

“Mae’r rhain yn ffigurau anhygoel sy’n dangos cefnogaeth hanesyddol i nod Plaid Cymru o ennill annibyniaeth i Gymru,” meddai Arweinydd y Blaid.

“Mae ein cenedl ar symud. Wrth i [Brif Weinidog y Deyrnas Unedig] Boris Johnson fynd â ni’n agosach ar ddiben y clogwyn, bydd mwy a mwy o bobl yn mynnu Cymru allfrydig sy’n rhydd o ddirmyg San Steffan.”

Ystadegau

  • Byddai 31% yn pleidleisio tros annibyniaeth yfory, yn ôl yr arolwg diweddaraf
  • A byddai 41% yn pleidleisio tros annibyniaeth pe bai’n golygu bod modd aros yn Aelod o’r Undeb Ewropeaidd trwy fod yn annibynnol
  • Yn ôl arolwg barn ICM ym mis Chwefror, dim ond 7% sydd o blaid annibyniaeth
  • Yn ôl arolwg barn Sky ym mis Rhagfyr y llynedd, dim ond 8% sydd o blaid

Cafodd 1,039 o bobol sy’n byw yng Nghymru ei holi rhwng Medi 6 a Medi 10 ar gyfer yr arolwg diweddaraf.