Bydd mwy na 900 o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y pum mlynedd nesaf yn dilyn buddsoddiad gwerth £150m gan y cyngor.

Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan gynghorwyr yn ystod cyfarfod llawn o’r cyngor yr wythnos hon.

Mae disgwyl i’r buddsoddiad adfer stoc dai Cyngor Sir Gaerfyrddin i lefelau na welwyd ers yr 1990au, yn ogystal â helpu i fynd i’r afael â’r galw parhaus am dai cymdeithasol, meddai’r cyngor.

Y cynllun

Bydd y tai newydd yn cael eu hadeiladu yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf, gyda llawer o’r rheiny yn ardaloedd gwledig sydd wedi dioddef prinder tai cymdeithasol ers blynyddoedd.

Mae’r cyngor eisoes wedi rhyddhau £53m ar gyfer adeiladu’r 300 o dai cyntaf cyn 2022, ac mae gwaith hefyd wedi dechrau ar ddwy safle – Dylan yn y Bryn, Llanelli, a Garreg-lwyd ym Mhen-bre, lle bydd cymysgedd o dai i deuluoedd a byngalos yn cael eu hadeiladu.

Yn ôl y cyngor, mae’r cynllun hwn yn ychwanegol at yr ymrwymiad i ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu ledled y sir erbyn 2021.

Mae’r cyngor eisoes fwy na hanner y ffordd tuag at gyflawni’r ymrwymiad hwnnw, meddai, yn sgil adeiladu 700 o dai fforddiadwy, prynu tai o’r farchnad, neu ddefnyddio tai gwag unwaith eto.

“Cyffrous a heriol”

“Mae’r rhaglen hon yn gyffrous ac yn heriol,” meddai’r Cynghorydd Linda Evans, yr aelod o’r Bwrdd Gweithredol tros Dai.

“Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr angen a darparu tai addas – tai ar gyfer yr angen cyffredinol a thai i bobol ag anghenion corfforol.

“Byddwn yn adeiladu cartrefi gydol oes sy’n hawdd eu haddasu fel y gall pobol aros yn yr eiddo hwnnw.”