Mae un o uwch swyddogion Cymdeithas y Merlod a’r Cobiau Cymreig yn cyhuddo “lleiafrif bychan” o geisio tanseilio’r gymdeithas.

Fe all naw o ymddiriedolwyr gael eu disodli mewn cyfarfod arbennig a fydd yn cael ei gynnal yn Llanelwedd ar Fedi 18.

Daw wedi i ffrae fawr achosi rhwyg o fewn y gymdeithas hanesyddol a gafodd ei sefydlu yn 1901 ac sydd â dros 5,000 o aelodau ledled y byd.

Ymhlith yr hyn mae aelodau yn anfodlon yn eu cylch mae diffyg tryloywder o fewn y gymdeithas, prosesau disgyblu ddim yn cael eu dilyn, a gostyngiad yn yr aelodaeth.

Cyfarfod arbennig

Mae o leiaf 5% o aelodau’r gymdeithas wedi arwyddo deiseb yn galw am y cyfarfod yn Llanelwedd er mwyn trafod cyfres o gynigion.

Mae gan y gymdeithas 14 o ymddiriedolwyr, ac mae’r naw canlynol yn wynebu cynigion i’w disodli:

  • Miss D Chambers;
  • Mr RJ Davies;
  • Mr WG Davies;
  • Mr JE Evans;
  • Mr GDJ Jones;
  • Mr GW Jones;
  • Mr DD Morgan;
  • Mr DO Roberts;
  • Mr C Thomas.

‘Cyfarfod arall – gwastraff arian’

Yn ôl un o’r ymddiriedolwyr uchod a chadeirydd y cyngor, Colin Thomas, mae’r ffraeo diweddar wedi costio “llwythi o arian” i’r gymdeithas, sy’n gorfod cynnal dau gyfarfod arbennig mewn deunaw diwrnod – roedd yr un blaenorol ar Awst 31.

Dywed hefyd fod yr ymddiriedolwyr wedi “gweithio’n galed” yn ystod y misoedd diwethaf yn ceisio datrys pethau, ac mae’n annog aelodau i’w gefnogi ef a’i gyd-ymddiriedolwyr yr wythnos nesaf.

“Lleiafrif bychan – ychydig dros 300 o’r aelodaeth – sy’n anfodlon,” meddai Colin Thomas wrth golwg360. “Dydyn ni ddim yn clywed dim oddi wrth y 5,000 arall.

“Dydw i ddim yn credu eu bod nhw wedi gweithredu mewn modd call, i ddweud y gwir. Yr hyn maen nhw’n ei wneud yw ceisio sarnu’r gymdeithas, yn hytrach na’i gwella.

“Nid gweithredu call yw galw dau gyfarfod arbennig mewn deunaw diwrnod. Maen nhw’n gwybod bod [y gymdeithas] yn sefydliad elusennol, ac mae’r hyn maen nhw’n ei wneud yn eitha’ damniol.”

Cwynion yr aelodau

Mewn datganiad, mae’r grŵp sy’n galw am y cyfarfod wedi rhestru eu rhesymau tros wneud hynny:

  • Y gymdeithas wedi gwneud colled ariannol o £120,000 yn 2018;
  • Yr aelodaeth wedi gostwng 6% yn 2018, a 33% yn ystod y cyfnod 2009-2019;
  • Gostyngiad o 8% yn nifer y ceffylau a gafodd eu cofrestru yn 2018;
  • Llawer o ymddiriedolwyr a swyddogion wedi ymddiswyddo yn ddiweddar;
  • Prosesau disgyblu ddim yn cael eu dilyn, a chyn-aelodau ddim yn cael cynnig yr hawl i apelio;
  • Aelodau yn teimlo nad yw eu llais yn cael ei glywed, a’r angen i’r gymdeithas fod yn fwy tryloyw.

Yn ôl Steve Everrit, sydd wedi bod yn aelod o’r gymdeithas ers hanner canrif, mae yna deimlad nad oes gan rai o’r ymddiriedolwyr “ddigon o hyder” i reoli’r gymdeithas.

“Yn sicr, y teimlad sydd gen i yw bod y bobol sy’n rheoli’r sioe ddim yn teimlo’n hyderus iawn yn ei wneud e,” meddai wrth golwg360.

“Y profiad perthnasol yw’r broblem, mewn gwirionedd. Mae’r rhan fwyaf o aelodau’r cyngor yn fridwyr ceffylau penigamp, ond dyw hynny ddim yn golygu eu bod nhw’n dda yn rheoli cwmni sy’n gwneud trosiant o tua £1m y flwyddyn.”