Mae cadeirydd CFfI Cymru yn teithio ar hyd a lled Cymru ar gefn tractor yr wythnos hon er mwyn codi ymwybyddiaeth am waith y mudiad a chasglu arian at achos da.

Bwriad Dafydd Jones yw ymweld â phob un o swyddfeydd y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru – o Sir Fôn i Went, ac o Frycheiniog i Sir Benfro.

Yn ôl y dyn ei hun, wrth siarad â golwg360 o gab y Massey Ferguson y cafodd ei fenthyg gan gwmni Brodyr Evans, mae’r daith 480 o filltiroedd am bara pedwar diwrnod iddo.

Ond mae’n edrych ymlaen at dderbyn un croeso olaf oddi wrth y ffederasiynau cyn y bydd ei gyfnod fel cadeirydd yn dod i ben yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y mudiad yn Aberystwyth dros y penwythnos.

“Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus, o be wela i, ac mae’r siroedd wedi bod yn hynod o groesawgar i bob man dw i wedi bod iddo eleni,” meddai Dafydd Jones.

“Dw i’n teimlo fel cadeirydd ei bod hi’n bwysig iawn i fynd allan i gwrdd â’r siroedd a’r aelodau, ac maen nhw wedi bod yn wych.”

“Blwyddyn lwyddiannus”

Yn ystod ei flwyddyn wrth y llyw, mae Dafydd Jones wedi bod yn casglu arian ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd y cyfanswm yn cael ei gyhoeddi dros y penwythnos, meddai, ond mae’n barod i ddatgelu bod y ffigwr yn uwch na £40,000.

“Heb y mudiad yma, fe fasa yna lot o bobol ifanc yn colli allan, a bysa gynnon nhw ddim byd arall,” meddai Dafydd Jones.

“Mae[‘r daith hon] er mwyn codi arian ar gyfer yr Ambiwlans Awyr, ond hefyd i roi cydnabyddiaeth i’r siroedd am yr holl waith maen nhw wedi ei wneud yn y flwyddyn ddiwethaf.”

Daf yn cyrraedd Canolfan CFfI Cymru / Daf arriving at Wales YFC Centre

Y Cadeirydd yn cyrraedd Canolfan CFfI Cymru! ? ? ?The Chairman arriving at the Wales YFC Centre! ? ? ?#cadeiryddardaith #chairmanontour

Posted by CFfI Cymru Wales YFC on Thursday, 12 September 2019