Dylai’r Ceidwadwyr roi rhwydd hynt i Blaid Brexit herio Llafur yng Nghymru fel rhan o gytundeb gwleidyddol, yn ôl Nigel Farage.

Mae’n dweud mewn erthygl yn y Sunday Telegraph fod yr awgrym yn “gwbl ddiffuant, 100%” ac y byddai’n helpu i sicrhau y byddai Boris Johnson yn cael parhau’n brif weinidog.

Mae’n dweud y dylai’r cytundeb hwnnw hefyd ymestyn i ogledd a chanolbarth Lloegr, sydd hefyd yn gadarnleoedd Llafur.

Ddechrau’r wythnos ddiwethaf, doedd dim digon o aelodau seneddol o blaid cynnal etholiad cyffredinol.

Yn ôl y cytundeb sy’n cael ei gynnig gan Nigel Farage, fyddai Plaid Brexit ddim yn herio’r Ceidwadwyr mewn etholaethau lle byddai’n hollti’r bleidlais tros adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Os yw’r etholiad cyffredinol mae dirfawr ei angen ar y wlad hon am ddigwydd ac am arwain at ganlyniad pro-Brexit y mae’r rhan fwyaf o bleidleiswyr yn ei grefu, yna rhaid i Boris Johnson gefnogi cytundeb etholiadol gyda Phlaid Brexit,” meddai’r arweinydd.

“Dylai Johnson gofio’n ôl i etholiadau Ewrop fis Mai, lle daeth ei blaid yn bumed, a gofyn iddo fe ei hun a yw e am gael y Torïaid mewn sefyllfa drychinebus debyg pan fo canlyniadau’r etholiad cyffredinol nesaf yn dod i mewn, neu a yw e am lofnodi cytundeb etholiadol nad yw’n ymosodol gyda fi a dychwelyd i Downing Street?

“Dydyn ni ddim yn chwarae gemau gwleidyddol. Dw i wedi treulio mwy na 25 mlynedd yn brwydro tros Brexit, ac mae e’n awr o fewn ein gafael.”