Mae’r Con Community – cymuned o bobol sy’n mynychu Comic Cons – ar dwf yng Nghymru, yn ôl un o’i haelodau.

Gweithio yng nghanolfan celfyddydau Pontio mae Alun Parrington, ond yn ei amser sbâr mae’n hoffi ymweld â chynadleddau diwylliant geek.

Mae’n ystyried ei hun yn rhan o’r Con Community, sef “teulu” o bobol sy’n rhannu’r un diddordebau, ac mae’n dweud bod “eitha’ tipyn” o Gymry eisoes  yn aelodau.

Yn yr Unol Daleithiau mae’r prif gynadleddau yn cael eu cynnal, felly a yw’n credu bod diwylliant geek mymryn yn wannach yng Nghymru? Ar drothwy Comic Con Caerdydd mae’n wfftio hynny.

“Mae hynny yn wir efallai gyda Cardiff Comic Con, achos ei fod wedi mynd yn eithaf bach rŵan,” meddai wrth golwg360. “Ond gyda Wales Comic Con, mae i’r gwrthwyneb.

“Mae pobol yn teithio o’r Almaen a Ffrainc, i fynd i’r [Wales Comic Con] yn Wrecsam yn enwedig…

“Ac o fewn y Con Community, mae Wales Comic Con yn cael ei ystyried yn un o rai mwyaf Prydain o ran y guests maen nhw’n eu cael, a’r calibur.”

Comic Con Caerdydd

Bydd Comic Con Caerdydd yn cael ei gynnal yn y Motorpoint Arena’r brifddinas ar Fedi 7 ac 8, ac ymhlith y rheiny a fydd yn cymryd rhan bydd actorion o Star Wars a Game of Thrones.

Dyw Alun Parrington ddim yn mynd i gynhadledd Caerdydd eleni, ond roedd yn arfer mynd “pob tro yr oedd o ‘mlaen” pan oedd yn fyfyriwr yn y brifddinas.