Bydd papur cenedlaethol yr Alban – The National – yn cyhoeddi rhifyn Cymreig yn arbennig ar gyfer yr orymdaith annibyniaeth ym Merthyr Tudful ddydd Sadwrn (Medi 7).

Bydd 2,000 o gopïau yn cael eu dosbarthu yn ystod y digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan y grŵp, Pawb Dan Un Faner (AUOB Cymru).

Bydd y rhifyn arbennig yn cynnwys wyth tudalen o newyddion a chwaraeon yn Gymraeg a Saesneg, yn ogystal ag erthygl gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

“Ni all neb sy’n talu sylw i wleidyddiaeth yn y Deyrnas ‘Ranedig’ ar hyn o bryd beidio â sylwi ar y newid sydd ar droed yng Nghymru,” meddai golygydd y National, Callum Baird.

“Mae’r National yn falch o fedru cynhyrchu’r rhifyn arbennig ac adlewyrchu’r newid hwnnw mewn byd cyfryngol lle nad oes gan gefnogwyr annibyniaeth lais.

“Rydym yn sicr y bydd yr orymdaith yn llwyddiant mawr.”

Galw am bapur cenedlaethol i Gymru

Mae Adam Price wedi croesawu penderfyniad y National, gan ddweud bod angen papur tebyg iddo yng Nghymru.

“Mae rhywbeth ar droed yng Nghymru,” meddai arweinydd Plaid Cymru. “Mae yna gynnydd yn y diddordeb mewn annibyniaeth i Gymru, a da o beth yw gweld bod y National yn sylwi ar hynny.

“Mae’r orymdaith ym Merthyr ddydd Sadwrn yn arwydd pellach ein bod ni yng Nghymru ddim yn bell y tu ôl i’n cyfeillion yn yr Alban wrth ymgyrchu am ein hannibyniaeth ac wrth ddiogelu ein dyfodol yn Ewrop.

“Da o beth fyddai cyhoeddi papur tebyg i’r National yng Nghymru. Pam na wnewch chi ymuno â ni? Mae’r dŵr yn gynnes.”