Pe bai’n fyw heddiw byddai Gwynfor Evans yn “gorfoleddu” o glywed bod gan Blaid Cymru fwyafrif ar Gyngor Sir Gaerfyrddin – a hynny am y tro cyntaf erioed.

Daw sylw Alun Lenny, Cynghorydd Plaid Cymru, wedi i’r Cynghorydd Colin Evans gefnu ar y Blaid Lafur ac ymuno â’r Blaid.

Yn sgil y cam yma gan gynrychiolydd Pontaman, mae bellach gan Blaid Cymru 38 o 74 sedd y Cyngor.

Mi gynrychiolodd Gwynfor Evans, Aelod Seneddol Plaid Cymru, ei blaid am 25 blynedd ar yr hen Gyngor Sir Gaerfyrddin, ac mae’r Cynghorydd Alun Lenny yn credu y byddai’n falch o glywed y newyddion.

“Mae yna arwyddocâd wrth reswm ein bod ni am y tro cyntaf erioed â mwyafrif ar gyngor Sir Gaerfyrddin,” meddai wrth golwg360, “o gofio flynyddoedd yn ôl bod Gwynfor Evans wedi eistedd yno yn unig aelod Plaid Cymru.

“Roedd wedi cael amser ofnadwy – yn enwedig gan y grŵp Llafur a oedd yn ei ddilorni ac yn ei wawdio… Byddai Gwynfor, mae’n siŵr, yn gorfoleddu bod yr hadyn wnaeth e blannu, yn awr, wedi dwyn y fath gnwd. Dyna pam dw i’n dweud ei fod yn foment hanesyddol.”

Daeth Gwynfor Evans yn gynghorydd yn 1949 ond mi fethodd â chael ei ethol yn gynrychiolydd i Gyngor Sir Dyfed, sef rhagflaenydd y Cyngor presennol.

Llafur a’r Cyngor

Bellach mae gan Blaid Cymru fwyafrif o un ar y Cyngor, ond gan fod hynny’n “rhy denau” mae disgwyl i’w clymblaid â’r grŵp annibynnol barhau, meddai Alun Lenny.

Mae’r Cynghorydd yn dweud bod grŵp Llafur y Cyngor yn “araf chwalu”, gan awgrymu bod y newyddion diweddaraf yma yn arwydd o hynny.

Allwn ni ddisgwyl rhagor o aelodau Llafur i ddilyn Colin Evans felly? “Watch this space”, meddai Alun Lenny.

Wrth gefnu ar y Blaid Lafur mae Colin Evans wedi dweud nad yw’n “adnabod” y blaid honno mwyach, a’i fod wedi “blino’n lân” â’r trywydd mae’n ei ddilyn.

“Dros y blynyddoedd diwethaf dw i wedi ffeindio fy hun yn anghytuno fwyfwy â Jeremy Corbyn,” meddai, “tros ei safiad annelwig ar Brexit, ymhlith materion eraill.”