Mae un o hoelion wyth Plaid Cymru wedi cyhuddo cefnogwyr Neil McEvoy – a’i gefnogwyr – o gynnal ymgyrch “lechwraidd” ac “annerbyniol” i adfer ei aelodaeth.

Daw sylwadau Cynog Dafis, cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, mewn llythyr at Golwg wedi i’r cylchgrawn adrodd fis diwethaf bod ffynonellau o fewn y Blaid wedi codi pryderon am enwebiadau i’w Pwyllgor Gwaith.

Fis nesaf bydd pleidleisiau yn cael eu cynnal tros rhai o brif swyddi’r Blaid yn eu cynhadledd yn Abertawe.

A’r hyn sydd yn destun gofid i sawl un yw bod un etholaeth, Gorllewin Caerdydd, wedi enwebu sawl ymgeisydd – yn fwy nag unrhyw etholaeth arall – i sawl swydd.

Cyn iddo gael ei wahardd o’r blaid y llynedd, Neil McEvoy oedd ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad Cynulliad 2016, a phryder sawl un – gan gynnwys Cynog Dafis – yw bod cynllwyn ar waith.

Gofidion Cynog Dafis

Dyw llawer o’r rheiny sydd wedi cael eu henwebu gan Orllewin Caerdydd ddim yn hanu o’r etholaeth, ac mae Cynog Dafis yn dweud bod hynny’n “beth cwbl anarferol”.

Mae hefyd yn dweud bod enwebiadau’r etholaeth – gan gynnwys Dr Dewi Evans a ddywedodd wrth golwg360 y byddai’n derbyn Neil McEvoy yn ôl i’r blaid – yn “gefnogol” i’r cyn-aelod.

Mae Cynog Dafis wedi cyhuddo’r gangen o “entryism”, hynny yw, ceisio cymryd drosodd y blaid er dibenion ei hun.

Ac mae ar ddeall bod “cefnogwyr Neil McEvoy” wedi cael eu “recriwtio” fel eu bod yn medru cymryd rhan mewn cyfarfod etholaeth lle cafodd yr enwebiadau eu dewis.

Pryder Cynog Dafis yw bod “carfan” neu “ffacsiwn” yn gobeithio croesawu Neil McEvoy yn ôl i’r Blaid “trwy’r drws cefn”.

“Cynnig dewis”

Un o’r rheiny sydd wedi cael ei henwebu gan Orllewin Caerdydd yw Heledd Gwyndaf, ac mae hithau hefyd wedi rhannu ei barn mewn llythyr at gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Mae’n gobeithio cael ei hethol yn Gyfarwyddydd Cyfathrebu ar y Blaid fis nesaf, ac mae wedi amddiffyn y ffaith bod yr etholaeth wedi enwebu cynifer o bobol – wyth i gyd.

“Mae cynnig dewis mewn proses fel hon yn greiddiol i ddemocrataidd – nid yn unig er mwyn cynnig dewis ac er mwyn trafodaeth iach, ond hefyd er mwyn ein cadw ni gyd ar flaenau ein traed,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Mae cynnig dewis hefyd yn sicrhau nad yw’r un ohonom yn dod i gredu bod gennym ddwyfol hawl i unrhyw swydd etholedig ar y Pwyllgor Gwaith, na chwaith hawl i reoli pwy sydd ar y pwyllgor hwnnw. Diolch i etholaeth Gorllewin Caerdydd felly am eu gweledigaeth yn hyn o beth.”

“Dangos lan”

Mewn rhifyn diweddar o gylchgrawn Golwg mae Dr Dewi Evans, ymgeisydd am Gadeiryddiaeth y Blaid, hefyd wedi amddiffyn etholaeth Gorllewin Caerdydd.

“Mae’n amlwg i mi mai beth sydd y tu ôl [i’r cwyno] yw bod yna deimlad bod yr etholaethau eraill yn cael eu dangos lan fel ddim wedi bod mor effeithiol a dylen nhw fod,” meddai.

“Ac yn lle trio bod yn fwy effeithiol, ac yn fwy gweithgar o ran y Blaid, maen nhw’n feirniadol o’r etholaethau hynny sydd yn gweithio’n galed dros Blaid Cymru…

“Dw i’n credu bod yna oblygiadau ar y Blaid i longyfarch etholaethau sy’n weithgar dros Blaid Cymru yn lle cwyno am y diffygion yn etholaethau eu hunain.”

Y llythyrau a’r dadleuon yn llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg