Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda’r gymuned Affricanaidd-Americanaidd yn Birmingham, Alabama, a fomiwyd gan y Klu Klux Klan dros hanner canrif yn ôl.

Ar Fedi 15, 1963 y lladdwyd pedair merch ifanc pan daniodd goruchafwyr gwyn ddeinameit yn Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street, Birmingham. Anafwyd 22 o bobol eraill wrth i’r ymgyrchydd hawliau sifil, Martin Luther King, ddisgrifio’r ymosodiad fel “un o’r troseddau mwyaf milain a thrasig a gyflawnwyd erioed yn erbyn dynoliaeth”.

Mae Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, yn ymweld â’r eglwys a’i haelodau i gyhoeddi partneriaeth newydd gyda’r gynulleidfa yn ogystal â chwrdd ag uwch swyddogion a Maer Gwasanaeth Ieuenctid Alabama.

https://we.tl/t-ocgSHRv73A