Mae ysgrifennydd newydd Cymdeithas Merlod a Chobiau Cymreig wrth ei fodd ar ôl cael swydd sy’n “agos iawn” at ei galon. 

Fe fydd Meirion Davies, a fu’n Bennaeth Cyhoeddi gyda gwasg Gomer am dair blynedd, yn dechrau yn ei swydd newydd ddechrau Hydref.

Cyn hynny roedd yn gyn-Bennaeth Cynnwys S4C ond yn fwyaf adnabyddus am bortreadu un o’r dysgwyr yn ‘Y Ddau Frank’ ochr yn ochr â’r actor Rhys Ifans.

Mae’r Gymdeithas yn hyrwyddo bridio a chynnal safon merlod a bridiau Cymreig. Mae’n gyfrifol am gofrestru, trwyddedu, trosglwyddo perchnogaeth ac allforion. Mae Meirion Davies ei hun wedi bod yn aelod ers yr oedd yn saith mlwydd oed. 

Magu

“Mae fy rhieni yn eu magu nhw, a Richard, fy mhartner,” meddai Meirion Davies wrth golwg360. “Mae’r Gymdeithas yn un wy’n ei hedmygu’n fawr. Mae’n swydd gyffrous ac wy’n edrych ymlaen i ymuno â’r tîm.

“Mae cael cyfle bob awr o’r dydd i fod yn ymwneud â’r cobiau yn ormod o atyniad i mi,” meddai wedyn.

“Wy wedi bod yn delio gyda’r cobiau ar hyd fy mywyd. Fy rôl i fydd hyrwyddo a marchnata brand y gymdeithas. Mae delwedd pen poni cob neu poni mynydd yn dweud cyfrolau.

“Mae cryfder llinach y bridiau yn deyrnged i’n hen deidiau ni.”

Mae gan y Gymdeithas dros 5,500 o aelodau ledled y byd.