Mae gwr busnes o Ferthyr Tudful sydd wedi bod yng ngharchar dros y Gymraeg, yn dweud “nad oes Cymru annibynnol heb yr iaith”.

Mae Jamie Bevan yn gerddor sy’n cadw caffi yng nghanolfan gelfyddydau Soar yng nghanol y dref, ac yn credu y byddai annibyniaeth yn codi hyder pobol Merthyr yn ogystal â Chymru gyfan.

Ond er y byddai annibyniaeth hefyd yn rhoi hwb i’r Gymraeg, meddai, mae’r ddadl tros annibyniaeth yn mynd y tu hwnt i fater iaith.

“Mae’r ddadl y tu hwnt i iaith unig, ond byse fe yn amlwg yn codi diddordeb yn y Gymraeg, ac yn golygu bod pobol yn gweld fod annibyniaeth yn cyd-fynd â’r Gymraeg, achos does dim Cymru annibynnol heb y Gymraeg.

“Er hynny, rwy’n credu y bydd y rali yn Merthyr yn dda i drigolion y dref, os ydyn nhw o blaid annibyniaeth ai peidio.

“Chi’n sôn am ddod â miloedd o bobol i ganol Merthyr am y dydd, ac rydyn ni’ wedi amcangyfrif y bydd y rali’n dod â £200,000 i’r economi leol.

“I fi yn bersonol, mae e’n grêt i weld mudiad fel YES Cymru a mudiadau eraill yn cael momentwm a gweld cyffr tu ôl i’r mudiadau hyn… mae hynny yn cryfhau’r Gymraeg, yn cryfhau’r economi, ac yn cryfhau popeth. Mae jyst yn beth positif.”