Mae disgwyl i weithiwr cymdeithasol o Bowys ymddangos gerbron gwrandawiad wedi’i chyhuddo o ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol am achos yn ymwneud â chydweithiwr.

Mae Michele Hillman yn wynebu achos i dan nawdd Gofal Cymdeithasol Cymru yr wythnos hon, i ateb honiadau iddi rannu gwybodaeth am achos disgyblaeth cydweithiwr, gyda chydweithiwr arall.

Mae Michele Hillman hefyd wedi’i chyhuddo o fethu ag asesu myfyriwr gwaith cymdeithasol yn ddigonol trwy gytuno cofnodion ac adroddiadau y gwyddai eu bod yn anghywir ac yn gamarweiniol.

Mae’r gwrandawiad deuddydd yn cael ei gynnal yn swyddfa Gofal Cymdeithasol Cymru, Caerdydd, ac yn dechrau ben bore fory (dydd Mercher, Medi 4).