Mae Plaid Cymru’n galw ar y pleidiau sy’n gwrthwynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd i sefyll gyda’i gilydd mewn etholiad cyffredinol, os na fydd ail refferendwm.

Maen nhw’n cynnig gwelliant ar ffurf platfform lle byddai polisi o ddileu Erthygl 50 ac aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Daw’r cynnig ar ôl iddyn nhw gyflwyno gwelliant i ddadl ad-alw’r Senedd ym Mae Caerdydd, ar ôl i Senedd San Steffan gael ei phrorogio yr wythnos ddiwethaf.

Mae cynnig ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru’n gwrthwynebu prorogio’r senedd ac yn ategu gwrthwynebiad y Cynulliad i Brexit heb gytundeb.

Mae hefyd yn galw ar aelodau seneddol i ddeddfu er mwyn atal Brexit heb gytundeb ac i sicrhau mai’r cyhoedd sy’n cael y gair olaf.