Mae’r sawl oedd yn gyfrifol am ollwng llygredd i afon Teifi a lladd pysgod ym mis Rhagfyr 2016 wedi cael rhybudd i ddisgwyl i glybiau pysgota lleol ddwyn achos yn eu herbyn.

Mae cwmni Fish Legal yn cynrychioli Cymdeithas Bysgota Tregaron, Cymdeithas Bysgota Llandysul a pherchennog preifat sydd wedi’u siomi gan ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddiwedd mis Awst na fyddai’n dwyn achos yn erbyn Pencefn Feeds ar ôl i ddegau o filoedd o bysgod farw yn yr afon, ond maen nhw wedi cytuno i dalu costau gwerth £15,000 i ymddiriedolaeth afonydd leol a £5,000 i’r Gynghrair Cefn Gwlad, yn ogystal ag £20,000 i Gyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynnal ymchwiliad.

Mae Penelope Gane, Pennaeth Arfer Dda Fish Legal, yn dweud bod methu â dwyn achos yn cyfleu’r neges na fydd unrhyw un sy’n llygru afonydd yn cael eu herlyn.

“Mae’n anodd meddwl am enghraifft o adeg pan fyddai’r gosb fwyaf difrifol sydd ar gael i’r rheoleiddiwr yn fwy priodol ac er lles y cyhoedd,” meddai.

Mae Donald Patterson, cadeirydd Cymdeithas Bysgota Tregaron yn dweud bod y gymdeithas yn ystyried cyhoeddiad Cyfoeth Naturiol Cymru yn “warth” ac yn “ymateb ysgafn ar ôl tair blynedd o ddiffyg gweithgarwch biwrocrataidd”.

Mae’n dweud nad yw’r ymateb ganddyn nhw’n “ddigonol”.