Mae dau ddyn arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio llanc 17 oed yn y Barri.

Mae Nathan Delafonteine, 32, a Raymond Thompson, 47, wedi’u cadw yn y ddalfa, ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron ynadon Caerdydd yfory (dydd Llun, Medi 2).

Daw’r datblygiad ar ôl i ddau ddyn arall, 21 a 22 oed, gael eu harestio mewn perthynas â marwolaeth Harry Baker.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 5.50 fore Mercher, Awst 28, i ddociau’r Barri ar ôl i’w gorff gael ei ddarganfod.

Mae’r heddlu’n diolch i’r gymuned leol am eu cymorth, gan annog unrhyw un â gwybodaeth i fynd atyn nhw.

Maen nhw’n awyddus i glywed rhagor am ffrae yn yr ardal rhwng canol nos ac 1 o’r gloch y bore.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.