Mae’n “hanfodol” bod cynghorau sir yn parhau i ddarparu cludiant i’r ysgol ar gyfer pob disgybl er gwaethaf newid yn y gyfraith, yn ôl undeb addysg.

Daw’r sylw yn sgil pryderon na fydd rhai plant yn gallu cael bws i’r ysgol o fis Ionawr ymlaen am nad yw’r bysiau’n cydymffurfio â chyfreithiau newydd.

O 2020 ymlaen, bydd yn rhaid i fysiau cyhoeddus, sy’n codi tâl mynediad, gael lle arnyn nhw ar gyfer cadeiriau olwyn, ond mae rhai bysiau ysgol ddim yn cydymffurfio â hyn.

Mae hyn wedi arwain at rai cynghorau sir yng Nghymru yn gohirio’r gwasanaeth sy’n cynnig lle ar fws ysgol i blant sydd ddim yn gymwys ar gyfer cludiant am ddim, ond sydd gan amlaf yn talu am le.

Yn ôl David Evans, Ysgrifennydd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, mae sicrhau fod plant yn cael cynnig cludiant i’r ysgol yn “hawl sylfaenol”, ac ni ddylai’r newid yn y gyfraith eu hamddifadu o hynny.

“Os yw rhai plant yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i gael eu cludo ar fws i’r ysgol oherwydd nad yw’n cydymffurfio â’r newid diweddaraf yn y gyfraith, yn ein barn ni fe ddylai’r cyngor lleol sicrhau fod trefniadau addas mewn lle,” meddai.

“[Fe ddylen nhw wneud hyn] naill ai drwy sicrhau fod y dull priodol o drafnidiaeth ar gael, neu ystyried dulliau eraill o drafnidiaeth, a all gynnwys, er enghraifft, dacsis sydd wedi cael eu haddasu.”

‘Digonedd o amser i baratoi’

Wrth ymateb i honiadau gan gynghorau lleol nad oedden nhw’n ymwybodol bod y rheoliadau newydd yn effeithio ar fysiau ysgol, dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Mae bron i 20 mlynedd wedi bod er mwyn paratoi ar gyfer y rheoliadau hyn.

“Bu hyn yn ddigonedd o amser i sicrhau fod cerbydau newydd yn cwrdd â’r gofynion.”

Yn ôl llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth wedyn: “Mae gwasanaeth bws da yn hanfodol er mwyn sicrhau fod plant, yn enwedig y rheiny sy’n anabl, yn yr ysgol ar amser.

“Cafodd rheoliadau bws a choetsys eu cyflwyno gyntaf bron i ddau ddegawd yn ôl, gan sicrhau fod mynediad llawn ar gael ar gyfer gwasanaethau.

“Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ac awdurdodau i gwrdd â’r gofynion, gan barhau i gydweithio â chynghorau lleol ar sut i gyflawni hyn.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am ymateb.