Mae pencampwriaeth ryngwladol Triathlon Cymru yn ymweld â’r Gŵyr yfory a Chymro o Lanelli sydd ar y blaen.

Eisoes mae Liam Lloyd wedi ennill tair o’r pedair ras sydd wedi bod hyd yma, gan gynnwys ras Triathlon Llanelli yn ei filltir sgwâr ym mis Mai.

Ond mae Chris Silver yn dynn ar ei sodlau, a bydd angen buddugoliaeth arall er mwyn cadw ar y blaen.

“Dw i wedi mwynhau’r frwydr yn ystod y gyfres hon ac mae’r cyfan yn dibynnu ar sut mae Chris a finnau’n gorffen yn y ddwy ras olaf,” meddai Liam Lloyd, a orffennodd yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth Duathlon y Byd eleni.

“Mae’n debyg mai’r Gŵyr fydd ras anodda’r gyfres. Mae’n hirach na’r gweddill ond mae’n lleoliad gwych ar gyfer triathlon.

“Roedd rhywun yn dweud wrtha i yn ddiweddar mai hon oedd un o’r rasus triathlon cyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru. Felly mae’r elfen hanesyddol yn rhoi teimlad arbennig i’r ras…

“Dw i’n anelu i bennu’r gyfres gyda dwy fuddugoliaeth ac mi ddylai hynny fod yn ddigon da i ennill y bencampwriaeth, beth bynnag mae pawb arall yn gwneud.”

Ras y merched

Mae ras y merched i’w weld yn fwy agored yn enwedig gan fod yr arweinydd presennol, Rhian Roxburgh, yn cymryd seibiant y penwythnos hwn, gan obeithio selio’r bencampwriaeth yn ras olaf y gyfres mewn tair wythnos, sef Triathlon Llanc y Tywod ar draeth Niwbwrch.

Mae ei habsenoldeb yn rhoi cyfle i’w chyd-gystadleuwyr i gau’r bwlch, gan gynnwys Florence Swan a Rhiannon Middleton, sy’n ail ag yn drydydd, a Hannah Munday, sy’n dychwelyd wedi gwella o anaf ar ôl ennill dwy ras gyntaf y gyfres.

Uchafbwyntiau Triathlon y Gŵyr ar S4C nos Wener nesaf am 8.30 y nos.