Mae cyn-Gomisiynydd y Gymraeg wedi’i phenodi’n Is-Lywydd y Llyfrgell Gendlaethol yn Aberystwyth.

Fe ddaeth cadarnhad mewn datganiad heddiw (dydd Iau, Awst 29) gan Ddirprwy Weinidog Diwylliant Cymru, Dafydd Elis-Thomas, fod tri arall hefyd wedi’u penodi i eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y sefydliad.

Michael Cavanagh, Quentin Howard a Carl Williams ydi’r tri arall, ac fe fydd y pedwar yn dechrau yn eu swyddi ar Fedi 1, am gyfnod o bedair blynedd.

“Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell yn croesawu’n fawr apwyntiadau Meri Huws, Michael Cavanagh, Quentin Howard a Carl Williams,” meddai Llywydd y Llyfrgell, y cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas.

“Mi fydd y pedwar yn cynnig ystod o brofiad ac arbenigedd gwerthfawr i’r Bwrdd, a gwn y bydd fy nghyd Ymddiriedolwyr yn ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant  i’r pedwar wrth iddynt gychwyn ar eu cyfnod o wasanaeth.”