Rhys Priestland
Fe fydd Rhys Priestland yn westai ar raglen Cwpan Rygbi’r Byd 2011 ar S4C y bore fory.
Anafodd maswr Cymru ei ysgwydd yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Iwerddon ddydd Sadwrn diwethaf ac felly fe fydd James Hook yn cymryd ei le yn safle’r maswr gyda Stephen Jones ar y fainc.
Roedd Priestland wedi hawlio’r crys rhif deg ar ôl cyfres o berfformiadau da yn arwain lan i Gwpan y Byd.
Ac yn y gemau yn erbyn De Affrica, Samoa, Fiji ac Iwerddon roedd yn gadarn fel y graig.
Felly erbyn hyn mae’r tri maswr o Gymry wedi methu â chwarae oherwydd anaf am gyfnodau o’r gystadleuaeth.
Fydd y rhaglen ar S4C yn cychwyn am wyth y bore gyda’r gic gyntaf am naw. Fe fydd Rhys Preistland yn ymuno â’r cyflwynydd Gareth Roberts o Barc Eden yn Auckland, tra bod Wyn Gruffydd a Gwyn Jones yn sylwebu. Yn y stiwdio nôl yng Nghymru fydd Arthur Emyr, Derwyn Jones a Carys M Davies yn dadansoddi’r chwarae ac yn edrych ar y sylwadau ar Twitter a Facebook.