Mae dros fil o bobol erbyn hyn wedi arwyddo deiseb ar-lein sy’n galw am ddiswyddo cynghorydd tref yn Llanrwst ar sail sylwadau a wnaeth am y Gymraeg.

Roedd y cynghorydd Torïaidd Aldean Channer wedi dadlau mewn negeseuon ar Facebook fod cyfieithu i’r Gymraeg yn wastraff arian gan honni’n anghywir mai “dim ond 2%” o bobol Cymru sy’n siarad Cymraeg.

Mae’r ddeiseb sydd ar change.org yn honni bod ei “diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth yn dangos yn amlwg nad oes ganddi’r gallu i gynrychioli cymuned Gymraeg”.

Dywed Maer Llanrwst, Huw Prys Jones, fodd bynnag, mai at y Blaid Geidwadol ac nid at y cynghorydd unigol y dylai’r rhai sy’n ei beirniadu fod yn tanio’u hergydion.

“Does neb yn mynd i gymryd y ddeiseb o ddifri gan ei bod yn gofyn am rywbeth na ellir ei gyflawni,” meddai. “All neb beri ‘diswyddiad’ cynghorydd trwy bwysau gwleidyddol – yr unig sefyllfaoedd lle gall diswyddo ddigwydd ydi trwy broses gyfreithiol pan fo rheolau penodol wedi cael eu torri.”

Cyfrifoldeb y Torïaid

“Gan ei bod hi’n gynghorydd swyddogol y Blaid Geidwadol, y nhw yn y lle cyntaf ddylai fod yn gorfod cyfiawnhau ei sylwadau,” meddai Huw Prys Jones.

“Y ffaith amdani ydi bod yr agwedd ‘Dylai pawb siarad Saesneg’ yn gwbl gydnaws â’r cenedlaetholdeb Seisnig afiach sydd wedi lledaenu fel haint drwy’r blaid honno ers iddi gofleidio Brexit â’r fath arddeliad.

“Gallwn fod yn sicr hefyd fod yr agwedd hon ymhlith gwerthoedd craidd eilun addolwyr Boris Johnson o fewn y blaid.

“Yn y rhyfel diwylliannol rydan ni ynddo, mae’n holl bwysig ein bod yn canolbwyntio ar daro’n ôl yn effeithiol yn erbyn y sefydliad Seisnig, yn lle gwastraffu ynni ar ymosodiadau personol ar gynghorydd unigol.

“Pan mae sylwadau fel hyn yn cael eu gwneud yn enw’r Blaid Geidwadol, ei harweinwyr yng Nghymru, pobl fel Alun Cairns, ddylai fod yn cael eu herio i’w cyfiawnhau.”