Mae criw o famau “mentrus” yn ne Ceredigion wedi mynd ati i sefydlu menter newydd sydd â’r nod o hyrwyddo busnesau bach, lleol.

Mae Mamis Mentrus yn cynnwys chwech o famau – pump o ardal Llanbedr Pont Steffan ac un o Drefach-Felindre – sy’n gwerthu amrywiaeth o gynnyrch a nwyddau wedi eu creu yn lleol.

Yn ôl Non Elias, un o aelodau’r fenter, y bwriad yw creu digwyddiadau pop-yp mewn gwahanol leoliadau er mwyn hyrwyddo busnesau gan famau, gan gydweithio â sefydliadau a mudiadau lleol hefyd.

Hyrwyddo a chymdeithasu

Mae’r fenter, a gafodd ei lansio yn Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan, yr wythnos ddiwethaf (dydd Sadwrn, Awst 17), eisoes wedi ymweld â threfi Aberystwyth, Machynlleth, Aberaeron ac Aberteifi.

A’r nod hirdymor yw cynnal digwyddiadau ledled Cymru, meddai Non Elias, sydd ei hun yn gyfrifol am fusnes sy’n gwerthu ffyj, cacennau a bisgedi.

“Mae’n ddigon anodd gweithio a bod yn fam, ond mae’n anoddach fyth gwneud y ddau beth yna a dechrau busnes,” meddai’r fam wrth golwg360.

“Mae’n gyfle i gymdeithasu ac hefyd yn gyfle i’r busnesau dyfu tamed bach. Ar ddiwedd y dydd, mae prynu’n lleol yn bwysig.”

Dyma glip sain o Non Elias yn rhestru’r busnesau sy’n rhan o Mamis Mentrus hyd yn hyn…