Mae’r ymateb yn parhau i’r cyhoeddiad bod Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymddiswyddo.

Fe ddaeth cadarnhad ddoe (dydd Iau, Awst 22) fod Allison Williams wedi camu o’r neilltu ar Awst 20 wedi wyth mlynedd yn y swydd.

Roedd hi wedi bod ar “gyfnod estynedig o absenoldeb salwch” ers mis Mehefin.

Fe ddaeth hynny wedi i wasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd gael eu rhoi dan fesurau arbennig yn dilyn nifer o achosion difrifol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Roedd y rhain yn cynnwys wyth achos o fabanod yn cael eu geni’n farw, ynghyd â phum achos o fabanod yn marw yn fuan wedi genedigaeth. Fe ddigwyddodd yr achosion hynny rhwng Ionawr 2016 a Medi 2018.

Yr ymateb

Mae cadeirydd y bwrdd iechyd, yr Athro Marcus Longley, wedi diolch i Allison Williams am “ei hymroddiad i’r sefydliad dros y deng mlynedd diwethaf a dymunaf yn dda iddi yn y dyfodol”.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad tros Ganol De Cymru, Andrew RT Davies, dyw’r newyddion “ddim yn syndod o ystyried y sgandal mamolaeth ddiweddar”.

“O ystyried yr amgylchiadau, fe fyddai’n amhriodol cytuno ar unrhyw drefniant o ran tâl tra bo ymholiadau’n cael eu cynnal, a dw i’n gobeithio y bydd y prif weithredwr newydd yn parhau i gynorthwyo’r ymchwiliadau,” meddai.