Roedd mwy na 1,000 o blant wedi cael eu dal gyda chyllyll mewn ysgolion y llynedd – roedd yr un ieuengaf yn bedair oed ac mewn ysgol yng Nghymru, yn ol ffigurau newydd.

Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi cael eu galw i’r ysgol gan athrawon oedd yn bryderus bod gan y plentyn bedair oed gyllell.

Ymhlith yr arfau gafodd eu darganfod mewn ysgolion gan yr heddlu roedd machetes, cyllyll, a chleddyf samurai.

Yn ol ffigurau sydd wedi dod i law 5 News drwy’r ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, cafodd cyfanswm o 1,144 o droseddau yn ymwneud a chyllyll mewn ysgolion eu cofnodi yng Nghymru, Lloegr a’r Alban y llynedd.

Mae nifer y troseddau wedi mwy na dyblu dros y pum mlynedd ddiwethaf ymhlith y 36 llu heddlu yng Nghymru a Lloegr a oedd wedi darparu’r ffigurau, gan gynyddu o 372 yn 2014 i 968 y llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae na ddyletswydd ar awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod ysgolion yn llefydd diogel i bawb.

“Os yw’r sefyllfa mewn ysgolion yn dod yn anniogel, fe ddylai’r ysgol sicrhau bod yr awdurdodau priodol yn cael eu hysbysu fel bod y gefnogaeth briodol ar gael.”