Mae cymdeithas dai yng Ngheredigion wedi mynegi siom ynglŷn â’r ffaith na chawson nhw eu hysbysu’n swyddogol am y bwriad i gau’r ganolfan prawf gyrru yn Llanbedr Pont Steffan – gan glywed y newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol yn lle.

Mae disgwyl i’r prawf gyrru olaf yn y dref gael ei gynnal heddiw (dydd Iau, Awst 22).

Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbyd (DVSA), un o’r prif resymau tros roi’r gorau i brofion yno yw’r bwriad i ailddatblygu safle eu swyddfeydd – Canolfan Dulais – fel rhan o gynllun gwerth £3m.

Ond yn ôl perchnogion y ganolfan honno, Tai Ceredigion, roedden nhw wedi cynnig safle “amgen” i’r asiantaeth o fewn y dref er mwyn sicrhau “nad effeithiwyd ar y gwasanaeth prawf yn ystod y gwaith adeiladu”.

Ond er i swyddog o’r DVSA ymweld â’r safle dros dro cyn y Pasg, gan ddweud ei fod yn “hapus” â’r cyfleusterau, ni chlywodd y gymdeithas dai ganddo wedi hynny, medden nhw.

‘Dim hysbysiad ffurfiol’

“Nid ydym wedi derbyn unrhyw hysbysiad ffurfiol gan y DVSA nad oedd angen y brydles arnyn nhw,” meddai llefarydd ar ran Tai Ceredigion.

“Cysylltodd aelod o’n staff â’r DVSA ar ôl i adroddiadau ar y cau ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol a chawsant wybod bod cyhoeddiad swyddogol wedi’i wneud ar eu gwefan ar Fehefin 22.

“Fel cymdeithas, rydym yn siomedig iawn bod y gwasanaeth gwerthfawr hwn ar gyfer y dref a’r ardal yn dod i ben.”

Datganiad gwreiddiol y DVSA

Mewn datganiad a dderbyniwyd gan golwg360 rai wythnosau yn ôl, dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth:

“Blaenoriaeth y DVSA yw i helpu pobol drwy oes o yrru’n ofalus.

“Roedd y ganolfan prawf gyrru yn Llanbed ond ar agor am ddau ddiwrnod yr wythnos. Fe dderbyniodd y DVSA hysbysiad gan y tirfeddiannwr, sy’n ailddatblygu’r safle.

“Mae cyrsiau yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth yn profi ymgeiswyr ar holl agweddau’r prawf gyrru newydd, sy’n golygu bod ymgeiswyr wedi cael eu paratoi’n well ar gyfer oes o yrru’n ofalus, gan wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel.”