Mae enw’r ddynes 68 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ar Awst 16 wedi cael ei gyhoeddi.

Bu farw Oi Mee Lam yn y gwrthdrawiad rhwng ei char Nissan Micra arian hi, Audi A3 du a thacsi du. Fe gafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw’n ddiweddarach.

Wrth dalu teyrnged iddi, dywed ei theulu ei bod hi’n “fam, mam-gu, chwaer, mam-yng-nghyfraith, modryb a ffrind ymroddedig”, ac maen nhw’n diolch i’r rhai oedd wedi rhoi cymorth iddi yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu’n apelio am dystion, ac maen nhw’n awyddus i siarad â gyrrwr y tacsi.

Mae dyn 35 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.