Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn beirniadu’r diffyg undod o fewn Llafur yng Nghaerdydd a San Steffan ar fater Brexit.

Tra bod Jeremy Corbyn yn gwrthod datgan ei farn, mae Mark Drakeford yn dweud y byddai Llafur Cymru’n ymgyrchu tros aros pe bai ail refferendwm yn cael ei gynnal, hyd yn oed pe bai Llafur mewn grym yn San Steffan.

Ac mae Mark Drakeford yn rhybuddio bod adroddiad astudiaeth traws-lywodraeth yn ategu pryderon Llywodraeth Cymru am brinder bwyd a meddyginiaeth, oedi mewn porthladdoedd ac anhrefn gyhoeddus yn wyneb Brexit heb gytundeb.

‘Anwybyddu dymuniad y wlad’

Wrth ymateb i sylwadau Mark Drakeford, mae Paul Davies yn cyhuddo Prif Weinidog Cymru o anwybyddu barn pobol Cymru.

“Mae datganiad y Prif Weinidog heddiw’n profi faint o ddryswch sydd o fewn y Blaid Lafur ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai mewn datganiad.

“Mae gyda ni Mark Drakeford yng Nghymru yn wfftio dymuniad clir y wlad i adael yr Undeb Ewropeaidd, tra bod Jeremy Corbyn yn San Steffan yn ystumio’n wahanol bob wythnos er mwyn bodloni ei blaid.

“Mae’r ddau yn dangos eu diffyg gallu i arwain, oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu derbyn bod Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Fe ddylen nhw fod yn canolbwyntio ar gefnogi ymdrechion y Prif Weinidog [Boris Johnson] i geisio cytundeb gwell gyda’r Undeb Ewropeaid a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd yn hytrach na cheisio gwyrdroi dymuniadau pleidleiswyr.”