Mae dynes yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ol i gar daro dwy babell wrth yrru drwy faes gwersylla ger Caernarfon yn oriau mân y bore.

Cafodd pedwar o wersyllwyr – dau ddyn a dwy ddynes – eu hanafu yn y digwyddiad yng ngwersyll Rhyd y Galen wrth ymyl Bethel ger Caernarfon tua 2yb (dydd Llun, Awst 19).

Cafodd un o’r gwersyllwyr ei hanafu’n ddifrifol a’i chludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.  Mae’r tri pherson arall bellach wedi cael gadael yr ysbyty.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus i bobol a ddylai fod wedi teimlo’n ddiogel yn eu pebyll,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae Heddlu’r Gogledd yn rhoi cymorth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiad ac mae ein meddyliau gyda theulu’r ddynes sydd wedi’i hanafu’n ddifrifol.”

Mae’r ddau ddyn gafodd eu harestio yn cael eu cadw yn y ddalfa ar amheuaeth o yrru’n beryglus ac o dan ddylanwad alcohol.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd a gwybodaeth i gysylltu a nhw ar 101.