Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad dyn 32 oed o Aberdâr yn chwilio am ddynes yn ei 20au mewn perthynas â’r achos.

Mae’r ddynes yn ei 20au ac mae ganddi wallt tywyll hir.

Cafodd hi ei gweld yn ymweld â chartref Jordan Moray yng Nghwmbach wythnosau’n unig cyn iddo fynd ar goll.

Roedd hi’n gyrru Ford Fiesta glas neu borffor, a chafodd y dyn ei weld yn mynd i mewn i’r car cyn cael ei ollwng y tu allan i’w gartref yn ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â’r ddynes yn y gobaith o gael hyd i ragor o wybodaeth.

Jordan Moray

Cafodd yr heddlu wybod am ddiflaniad Jordan Moray ar Awst 2, gan nad oedd ei deulu wedi ei weld e ers Gorffennaf 24.

Ond fe gafodd ei weld gan ffrind yng Nghwmbach ar Orffennaf 29.

Aeth ei deulu i’w fflat ond roedd peiriant gemau ymlaen ac roedd ei ffôn yno, a’r eiddo heb ei ddiogelu.

Mae’r teulu’n gofidio amdano, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.