Mae adfeilion gorsaf bŵer yn Didcot lle cafodd dyn o Abertawe a thri dyn arall eu lladd yn 2016 wedi cael eu dymchwel.

Roedd 49,000 o gartrefi heb drydan yn dilyn y broses ddymchwel, oedd wedi achosi tân a ffrwydrad.

Bu farw Christopher Huxtable, 33, ynghyd â Kenneth Cresswell (57), John Shaw (61) a Michael Collings (53) ar ôl i ran o safle Didcot A gwympo fis Chwefror y flwyddyn honno.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal ar y pryd, a hynny ar y cyd rhwng yr heddlu a swyddogion iechyd a diogelwch, wrth iddyn nhw ystyried cyhuddiadau o ddynladdiad corfforaethol, dynladdiad trwy esgeulustod difrifol a throseddau iechyd a diogelwch.

Daeth y gwaith ar y safle i ben yn 2013 ar ôl 43 o flynyddoedd, ac fe gafodd rhannau o’r safle eu dymchwel y flwyddyn ganlynol.