Gallai cyfathrach rywiol arwain at drochfa o ddŵr oer a larwm uchel mewn toiledau newydd sydd ar fin cael eu codi ym Mhorthcawl.

Os bydd unrhyw symudiad sydyn yn y toiledau diweddaraf hyn, fe fydd y drysau’n agor yn awtomatig, a dŵr yn cael ei chwistrellu ar y sawl fydd ynddyn nhw.

Fe y fydd y lloriau sy’n sensitif i bwysau yn sicrhau mai dim ond un oedolyn all fod yn y ciwbicl yr un pryd, er mwyn rhwystro “gweithgaredd rhywiol anaddas a fandaliaeth”.

Mae disgwyl i’r toiledau presennol gau ym mis Hydref, cyn i’r toiledau newydd gael eu codi ar gost o £170,000.

Fe fydd yn rhaid talu am ddefnyddio’r cyfleusterau newydd er nad yw’r gost wedi’i phenderfynu eto.