Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ar ei uchaf erioed yng Nghymru a Lloegr.

Roedd 4,359 o farwolaethau oherwydd gwenwyno cyffuriau yn y ddwy wlad yn 2018 – y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnodion, meddai’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Mae’r gyfradd wedi codi 16%, 603 o farwolaethau, ers 2017.

Mae dros hanner y marwolaethau, 2,208 yn ymwneud a chyffuriau opiate, tra mae’r nifer yn ymwneud a sylweddau seicoweithredol wedi dyblu mewn blwyddyn i 125.

Mae’r marwolaethau yn ymwneud a chocên wedi dyblu yn y tair blynedd fyny at 2018, gan godi i’w lefel uchaf erioed.

Mae elusennau wedi ymateb trwy gyhuddo Llywodraeth gwledydd Prydain o fethu ag amddiffyn pobol fregus i niwed trwy “ddinistrio” cyllid triniaethau, tra bod Coleg Brenhinol Seiciatryddion yn dweud bod polisïau’n “dinistrio bywydau”.

Ar wahan i gofnodi marwolaethau o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau anghyfreithlon a phresgripsiwn, maen nhw hefyd yn cynnwys damweiniau a hunanladdiadau sy’n ymwneud â chyffuriau, ynghyd â chymhlethdodau fel thrombosis a septisemia ar ól defnyddio nodwyddau.