Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi llongyfarch myfyrwyr o bob cwr o Gymru wrth i’r graddau A* i A uchaf godi eleni i 27%, o’r ganran o 26.3% yn 2018. .

Mae’r canlyniadau dros dro yn dangos bod Cymru wedi gwella o ran ei safle ar gyfer pob un o’r graddau a’i bod yn gyntaf ar gyfer canlyniadau A* o’i chymharu â rhanbarthau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos:

  • Cynnydd o ran cyrhaeddiad yn y graddau uchaf – bu cynnydd yn y graddau A*-A o 26.3% yn 2018 i 27%
  • Cyfraddau llwyddo bellach ar gyfer A* yn 9.1%
  • Roedd y canlyniadau’n sefydlog ar gyfer graddau A*-C, gyda’r gyfradd llwyddo gyffredinol yn 76.3%, y lefel uchaf ers 2009.
  • Bu gwelliannau yn safle Cymru ar gyfer pob gradd a Chymru bellach sydd yn y safle cyntaf ar gyfer A*, o’i chymharu â rhanbarthau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
  • Ymhlith y pynciau craidd, gwelwyd y gyfradd llwyddo uchaf ar gyfer A*-A mewn Mathemateg gyda 45.2% yn cyrraedd y graddau hynny
  • Cynnydd yn nifer y myfyrwyr oedd wedi cofrestru ar gyfer Gwyddoniaeth a mwy yn cael graddau A*-C mewn Bioleg (+1.1% pwynt), Cemeg (+2.2% pwynt) a Ffiseg (+1.1% pwynt)
  • Roedd y canlyniadau’n sefydlog ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol gyda 20.3% yn cael gradd A, a 90.0% o’r ymgeiswyr yn cael graddau A-E

Bagloriaeth

Mae myfyrwyr Bagloriaeth Cymru wedi gwneud yn dda hefyd – gyda 4.6% o’r myfyrwyr yn ennill gradd A* yn y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch, yn gynnydd o 1.6% yn 2017.