Mae Prifysgol Aberystwyth yn dweud eu bod nhw’n ystyried dod â chwmni cyhoeddi, sy’n creu adnoddau addysgiadol ar gyfer ysgolion, i ben – gan ddiswyddo pedwar o bobol yn y broses.

Mae CAA Cymru, sy’n gwmni o fewn y brifysgol, wedi bod yn cynhyrchu gwerslyfrau, pecynnau aml-gyfrwng a deunydd digidol yn Gymraeg a Saesneg ers dros 30 mlynedd.

Ond yn ôl Prifysgol Aberystwyth, mae cystadleuaeth o fewn y farchnad cyhoeddi adnoddau addysg bellach wedi “newid yn sylweddol”, gyda mwy o gwmnïau yn cystadlu “ar gyfer llai o gomisiynau”.

Mae golwg360 yn deall i staff dderbyn llythyr yr wythnos ddiwethaf yn dweud bod y cwmni’n dod i ben yn ddiweddarach eleni. Er i’r wefan hon gysylltu ag aelodau staff, roedden nhw dan rybudd i beidio â siarad â’r wasg am y datblygiadau.

“Yn yr hinsawdd heriol hwn, mae’r Brifysgol wedi gwneud y penderfyniad anodd i ymgynghori â staff ynghylch dirwyn gwaith CAA i ben, gyda’r posibilrwydd o golli pedair swydd,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.

“Yn sgil ehangu’r sector cyhoeddi adnoddau addysg a’r twf yn nifer y cwmnïau yn y maes, ni ddylai’r penderfyniad effeithio ar allu’r sector yn gyffredinol i ddiwallu’r galw am adnoddau.”