Roedd lefelau niweidiol o garbon monocsid ar awyren Emiliano Sala cyn iddi blymio i’r ddaear gan ladd y pêl-droediwr a’i beilot David Ibbotson, yn ôl ymchwilwyr.

Cafwyd hyd i lefelau digon peryglus yng nghorff y chwaraewr fel y gallai fod wedi achosi trawiad ar y galon, ffit neu iddo fynd yn anymwybodol, meddai adroddiad interim Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr.

Mae’n debygol fod y peilot hefyd wedi cael ei effeithio “i ryw raddau”, gan y gall y nwy effeithio ar allu peilot i hedfan awyren.

Roedd yr Archentwr Emiliano Sala newydd ymuno â Chaerdydd o Nantes am £15m cyn y ddamwain, ac roedden nhw’n teithio dros Ynysoedd y Sianel ar Ionawr 21 pan ddigwyddodd y ddamwain.

Ymateb cyfreithiwr

Yn ôl cyfreithiwr teulu Emiliano Sala, mae’r casgliadau diweddaraf yn “peri sawl cwestiwn”.

Mae’n dweud bod y teulu o’r farn fod archwiliad technegol o’r awyren yn “angenrheidiol”, er mwyn i’r cyhoedd “wybod sut fod carbon monocsid wedi gallu mynd i mewn i’r cabin”.

Mae’n dweud bod diogelwch yn y dyfodol yn ddibynnol ar archwiliad o’r fath.