Mae llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ymchwilio i’r hyn a achosodd i bron i filiwn o bobol yng Nghymru a Lloegr fod heb drydan am gyfnod yr wythnos ddiwethaf.

Fe achosodd y digwyddiad “drafferthon mawr” i drafnidiaeth a chartrefi ddydd Gwener (Awst 9) yn sgil colli cysylltiad gyda phwerdy a fferm wynt.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes, Andrea Leadsom, doedd y toriad pŵer ddim yn seiliedig ar “anghysondeb” yr ynni gwynt ond, yn hytrach, roedd yn dangos yr angen am ynni sy’n dod amrywiaeth o ffynonellau er mwyn cynnal y grid.

Mae hi hefyd wedi sefydlu pwyllgor arbennig a fydd yn ymchwilio i’r mater, gan sicrhau na fydd digwyddiad o’r fath yn digwydd eto.

Mae’r pwyllgor yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Prydain ei hun, rheoleiddwyr, ac arweinwyr y diwydiant ynni.

Mae disgwyl i’r pwyllgor adrodd ar ei ganfyddiadau ymhen tri mis.