Mae llanc, 18, wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad â chyllell yn nhref Y Rhyl, lle cafodd dyn lleol ei anafu’n ddifrifol.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe gawson nhw eu galw i ardal Stryd yr Eglwys yn ystod oriau mân fore Mawrth (Awst 13).

Mae’r llanc o Lannau Merswy yn cael ei amau o geisio llofruddio, tra bo dau ddyn o Ddinbych wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r tri yn parhau i gael eu cadw yn y ddalfa, ac mae timau fforensig yn dal i archwilio tai yn Ninbych.

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y 24 awr diwethaf, a dw i’n ddiolchgar iawn am wybodaeth a chefnogaeth y cyhoedd sydd wedi ein harwain cyn belled â hyn,” meddai’r Ditectif Uwcharolygydd, Steve Williams.

Ychwanegodd y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar unwaith.