Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a’r Gweinidog tros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, yr wythnis hon yn pwysleisio eu bod nhw’n gwneud “popeth posib” i ddiogelu’r diwydiant amaeth yng Nghymru.

Daw eu sylwadau wrth iddyn nhw baratoi i gwrdd â ffermwyr, undebau a phartneriaid mewn tair sioe amaethyddol.

Fe fyddan nhw yno i drafod y cynigion a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf, a fydd yn newid sut mae’r diwydiant amaeth yng Nghymru yn cael ei ariannu.

Mae’r cynllun Ffermio Cynaliadwy a’n Tir yn cynnig disodli’r hen system o gymorthdaliadau – sy’n talu ffermwyr yn ôl faint o dir sydd ganddyn nhw – gyda system newydd a fydd yn eu talu am wneud gwaith amgylcheddol.

Bydd Mark Drakeford a Lesley Griffiths hefyd yn rhybuddio’r diwydiant am y peryg o Brexit heb gytundeb ar Hydref 31, a’r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i baratoi ar gyfer hynny.

Ffermio a Brexit

Bydd Mark Drakeford a Lesley Griffiths yn ymweld â Sioe Sir Benfro (Awst 13) a Sioe Môn (Awst 14) gyda’i gilydd, cyn y bydd Lesley Griffiths yn ymweld â Sioe Dinbych a Fflint ddydd Iau (Awst 15).

“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth posib er mwyn sicrhau dyfodol cadarn i’r sector,” meddai Mark Drakeford.

“Bydd ein cynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn rhoi sicrwydd i ffermwyr, gan roi ffrwd incwm sefydlog iddyn nhw ar ôl Brexit.

“Bydd y cynllun yn ein helpu i fynd i’r afael a rhai o’r heriau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu heddiw, fel y newid yn yr hinsawdd, drwy wobrwyo ffermwyr am ganlyniadau amgylcheddol.

“Rwy’n edrych ymlaen at drafod ein cynigion ac at glywed sylwadau yn y sioeau yr wythnos hon.”