Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal ym Mhorthaethwy heddiw i ddathlu 200 mlynedd ers dechrau’r gwaith o adeiladu Pont Menai, a adnabyddir yn lleol fel Pont y Borth.

Bwriad y trefnwyr – elusen Treftadaeth Menai –  yw rhoi’r cyfle i bobol ddysgu am fyw yn yr 19eg ganrif a gweld sut gafodd y bont eiconig ei hadeiladu.

Bydd ‘Ffair Hanes’ yn cael ei chynnal rhwng 10 y bore yma a 4 o’r gloch y prynhawn ar Bier Y Tywysog ym Mhorthaethwy.

Bydd seremoni am hanner dydd ger sylfeini’r bont ble bydd plac yn cael ei ddadorchuddio i nodi union 200 mlynedd ers i’r garreg gyntaf gael ei gosod.

Cafodd y bont rhwng Ynys Môn a Gwynedd ei chwblhau yn 1826, a chyn hynny yr unig ffordd o groesi oedd ar gwch neu fferi.

Mae’r bont, gafodd ei dylunio gan Thomas Telford, bellach yn strwythur rhestredig Gradd I ac mae’n parhau i gario cerbydau ar hyd yr A5.

Fe gafodd ail groesiad dros Afon Menai – Pont Britannia – gan Robert Stephenson – ei hagor yn 1850 er mwyn cludo trenau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y llynedd eu bod o blaid codi pont newydd dros Afon Menai – sef trydedd pont – i’r dwyrain o Bont Britannia.