Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi gorfod canslo’r gigs ar safle Maes B heno a nos yfory, oherwydd y rhagolygon tywydd garw.

Ac mae’r rhai sy’n gwersylla yno yn gorfod gadael y safle a chael lloches mewn canolfan hamdden.

Roedd y bandiau Gwilym, Tri Hŵr Doeth, Papur Wal a Serol Serol i fod i chwarae ym Maes B heno.

Nos yfory roedd disgwyl perfformiadau gan Mellt, Adwaith, Los Blancos a Wigwam.

Mae miloedd wedi bod yn heidio i Faes B yn y blynyddoedd diweddar – aeth 4,000 yno ar Sadwrn ola’ Steddfod Genedlaethol Môn yn 2017 i wylio Yws Gwynedd yn canu.

Trafod ad-dalu wedi’r Steddfod

Yn siarad â’r wasg, mae Betsan Moses, Prif Weithredwr y brifwyl, wedi dweud bod y gwaith o gau Maes B a’r Maes Pebyll Ieuenctid gerllaw bellach wedi dechrau.

Mae disgwyl i bobol ifanc Maes B droi am adref, ac mi fydd canolfan hamdden ger Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, yn cael ei droi’n Ganolfan Loches i’r rheiny sydd sy’n aros i adael.

Fydd dim gigiau yn cael eu cynnal ym Maes B heno nac nos fory chwaith, a does dim sicrwydd eto ynglŷn ag a fydd bandiau’n cael eu talu.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn trafod y posibiliad o ad-dalu gwersyllwyr ar ôl i’r brifwyl ddod i ben.

Datganiad Maes B y Steddfod 

“CAU MAES B A’R MAES PEBYLL IEUENCTID OHERWYDD TYWYDD GWAEL

Yn dilyn trafodaethau gyda’n partneriaid allweddol, Cyngor Conwy, Heddlu Gogledd Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi bod rhaid gwagio a chau Maes B a’r maes pebyll ieuenctid, er mwyn lles a diogelwch y trigolion.  Penderfynwyd hyn yn sgil rhagolygon y tywydd ar gyfer y dyddiau nesaf.

Mae gan yr Eisteddfod dîm o bobl broffesiynol mewn lle sydd yn rhedeg safle Maes B.  Mae hyn yn cynnwys tîm gofal a llesiant a fydd yn cymryd gofal o’r bobl ifanc tan i’r safle gael ei wagio.

Mae ardal loches eisoes ar gael yn y ganolfan hamdden ger Ysgol Dyffryn Conwy.  Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio hon os nad oes modd gadael y safle yn syth.  Mae palmant yn rhedeg o Faes B i’r ganolfan.

Os oes gan bobl deulu yn aros yn y maes carafanau neu’n agos at yr Eisteddfod, rydym yn argymell eu bod yn symud atyn nhw.”

“Ni ddylai unrhyw un yrru os ydyn nhw dan ddylanwad alcohol”

“Os yw unrhyw berson ifanc yn bwriadu gyrru gartref, mae’n rhaid sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gyfreithlon iddyn nhw wneud hynny.  Ni ddylai unrhyw un yrru os ydyn nhw dan ddylanwad alcohol, a dylid mynd i un o’r llochesau nes ei fod yn ddiogel i yrru.

Dylai rhieni neu ffrindiau sy’n dymuno casglu’r plant neu bobl ifanc drefnu i wneud hynny o Ganolfan Hamdden Llanrwst.  Mae llefydd parcio ar gael yma, ac mae’n lle diogel i gyfarfod.

Os yw pobl ifanc wedi teithio i’r Eisteddfod ar y trên, gellir dal bws gwennol o Faes yr Eisteddfod i orsaf Gogledd Llanrwst, neu wasanaeth bws X19 o’r Maes i orsaf drenau Cyffordd Llandudno.  Mae’r Eisteddfod wedi nodi’r amseroedd perthnasol ar wefan Maes B ac ar wefan yr Eisteddfod ei hun.

Mae lles a diogelwch trigolion y maes pebyll a Maes B yn flaenoriaeth i ni, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu ein bod ni’n sicrhau ein bod yn helpu pawb i aros yn ddiogel.

Dylai unrhyw un sy’n poeni am y sefyllfa ffonio swyddfa’r Eisteddfod ar 0845 4090 400.  Dylid cyfeirio unrhyw negeseuon e-bost at gwyb@eisteddfod.org.uk gan fod y cyfrif hwn yn cael ei fonitro’n barhaus.”