Merch o Bentrefoelas yn Sir Conwy yw’r gyntaf  i greu’r Gadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1999.

Gwenan Haf Jones yw’r gyntaf i ddylunio a chreu’r Gadair ers ugain mlynedd.

Wrth ei gwaith bob dydd mae hi’n gynllunydd gyda chwmni dodrefn a cheginau yng Nghorwen.

A chyn seremoni’r cadeirio’r prynhawn yma, bu yn egluro wrth gylchgrawn Golwg sut y daeth hi i wneud gwaith coed.

“Gyda nain dw i’n meddwl y daeth yr angerdd i greu a rhoi pethau at ei gilydd,” meddai Gwenan Haf Jones.

“Roedd hi’n dysgu fi [sut i wneud] gwaith pwytho, croesbwytho a sut i weu a sut i roi pethau at ei gilydd… o’r fan yna, datblygu at waith coed.”

“Stigma”

Mae Gwenan Haf Jones yn gobeithio y bydd mwya o ferched yn cael eu denu i greu Cadair yr Eisteddfod.

“Mae yna le i ferched a bechgyn yn y diwydiannau creadigol… mae yna ryw stigma i weithio mewn coed… ei fod yn job i ddyn.

“Ond mae mwy a mwy o ferched yn ymuno â’r diwydiant a baswn yn annog mwy i wneud.”

Mwy o hanes y Gadair yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg