Mae Boris Johnson yn “deall sensitifrwydd yr iaith Gymraeg a pham bod yr iaith mor bwysig” yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mae Alun Cairns wedi bod yn siarad gyda chylchgrawn Golwg ar faes y Steddfod yn Llanrwst yr wythnos hon, ac wedi brolio fod ei fos newydd yn gyfaill i’r Gymraeg.

“Mae wedi astudio ieithoedd lleiafrifol yn y brifysgol,” meddai Alun Cairns am Boris Johnson.

“Felly mae’n deall pwysigrwydd magu iaith, datblygu iaith a defnyddio iaith. Felly dw i’n meddwl bod diwylliant Cymru yn saff iawn, ac mewn lle cryf iawn gyda Boris Johnson yn Brif Weinidog.”

Cymro i’r Cairns

Mae Alun Cairns wedi mynnu ei fod yn “Gymro i’r carn” ac wedi gwadu bod ei berthynas â Chymru yn un anodd.

Bu rhai yn ei feirniadu yn hallt am ei ran yn ailenwi un o bontydd Hafren yn ‘Bont Tywysog Charles’.

Ond wrth siarad â chylchgrawn Golwg ar Faes yr Eisteddfod roedd Alun Cairns wedi amddiffyn ei record yng Nghymru, ac yn mynnu bod sawl un yn ei gefnogi – gan gynnwys aelodau Plaid Cymru.

“Mae yna rhai, efallai, yn cwyno,” meddai.

“Ond dw i’n gwbl gyffyrddus. Dw i wedi cael croeso ffantastig yn y Steddfod heddiw. Dw i’n teimlo’n gwbl gyffyrddus. Dw i’n Gymro i’r carn.

“A dw i eisiau defnyddio fy rôl i er mwyn cefnogi Cymru, er mwyn cefnogi’r iaith Gymraeg, ac i gefnogi rôl y Deyrnas Gyfunol er mwyn gweithio dros Gymru.”

Mwy gan Alun Cairns yn y rhifyn estynedig, eisteddfodol o gylchgrawn Golwg