Mae nifer y bobol sy’n marw o asthma neu’r fogfa, wedi cynyddu tua thraean mewn 10 mlynedd, yn ôl ffigurau newydd sydd wedi cael eu hasesu gan elusen.

Roedd mwy na 1,400 o bobol wedi marw yn ystod pwl o asthma yn 2018 yng Nghymru a Lloegr, sy’n gynnydd o tua 8% o’i gymharu â 2017, meddai Asthma UK.

Mae’r ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod nifer y marwolaethau wedi cynyddu 33% yn ystod y degawd diwethaf – o’i gymharu â 1,071 yn 2008.

Yn ôl y ffigurau hefyd, mae cynnydd wedi bod yn nifer y dynion sy’n marw o’r cyflwr, gyda 436 wedi marw yn 2018 o’i gymharu â 370 yn 2017.

Roedd mwy na 12,700 o bobol wedi marw o’r cyflwr yng Nghymru a Lloegr yn ystod y degawd diwethaf.

“Hollol annerbyniol”

Dywedodd yr elusen y gallai diffyg gofal sylfaenol ar gyfer pobol gydag asthma fod ar fai am y cynnydd.

Nid yw tua 60% o bobol gydag asthma yng Nghymru a Lloegr – tua 2.9 miliwn o bobol – yn cael gofal sylfaenol yn unol â’r argymhellion mewn canllawiau cenedlaethol, meddai’r elusen.

Roedd adolygiad a gafodd ei gomisiynu gan y Gwasanaeth Iechyd a’r Adran Iechyd bum mlynedd yn ôl wedi datgelu y gallai dau draean o farwolaethau asthma fod wedi cael eu hatal drwy gael gwell gofal sylfaenol.

Mae Asthma UK wedi dweud bod hyn yn “hollol annerbyniol” ac wedi galw ar y Llywodraeth i ymyrryd.